Cats (sioe gerdd)

Cats
200
Cerddoriaeth Andrew Lloyd Webber
Geiriau T. S. Eliot
Trevor Nunn
Llyfr Andrew Lloyd Webber
Trevor Nunn
Gillian Lynne
Seiliedig ar Old Possum's Book of Practical Cats gan T. S. Eliot
Cynhyrchiad 1980 Cyngherdd

1981 West End Llundain
1982 Broadway
Cynhyrchiadau rhyngwladol
1998 fersiwn fideo
2003 Taith yr Unol Daleithiau
2008 Taith yr Unol Daleithiau

Gwobrau Gwobr Laurence Olivier am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Olivier am Goreograffeg
Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Sgôr Wreiddiol Orau

Sioe gerdd a gyfansoddwyd gan Andrew Lloyd Webber ydy Cats. Mae'n seiliedig ar Old Possum's Book of Practical Cats gan T. S. Eliot.

Agorodd y sioe gerdd yn West End Llundain ym 1981 ac yna ar Broadway ym 1982. Cafodd y ddau gynhyrchiad eu cyfarwyddo gan Trevor Nunn ac fe'u coreograffwyd gan Gillian Lynne. Enillodd amryw wobrau, gan gynnwys Gwobr Laurence Olivier a'r Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau. Rhedodd y cynhyrchiad yn Llundain am 21 mlynedd a'r cynhyrchiad Americanaidd am 18 mlynedd. Caiff yr actoresau Elaine Paige a Betty Buckley eu cysylltu â'r sioe gerdd.

Mae Cats wedi cael ei pherfformio ledled y byd mewn cynyrchiadau amrywiol ac mae wedi cael ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd. Cafodd ei wneud yn ffilm a ddarlledwyd ar y teledu ym 1998.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search